SL(5)458 - Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy'n ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol a'u hamser gweithio.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o'r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”).

Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o'r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2019 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae adran 124(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 yn dweud, pan fydd gorchymyn (megis y Gorchymyn hwn) yn cyfeirio at ddogfen (megis y Ddogfen y cyfeirir ati yn y Gorchymyn hwn), y bydd yn rhaid i’r gorchymyn gynnwys darpariaeth ynghylch cyhoeddi'r ddogfen.

Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at gyhoeddi’r ddogfen mewn troednodyn. Nid ydym yn credu bod y gofyniad statudol i gynnwys darpariaeth mewn gorchymyn wedi'i fodloni'n briodol drwy ei gynnwys mewn troednodyn yn y gorchymyn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Dim

Ymateb y Llywodraeth

Mae elfen craffu technegol yr adroddiad drafft yn cyfeirio at un pwynt drafftio – sef y gwneir y cyfeiriad at gyhoeddi Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (“y ddogfen”) mewn troednodyn yn hytrach nag ym mhrif gorff y Gorchymyn ac felly, nid yw’r gofyniad statudol o dan adran 124(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002, fod rhaid i’r gorchymyn gynnwys darpariaeth ynghylch cyhoeddi’r ddogfen, wedi ei fodloni’n briodol.

Nodir y pwynt hwn.  Rydym yn ystyried mai sicrhau ei bod yn eglur i ddefnyddiwr y ddeddfwriaeth ym mha le y mae’r ddogfen wedi ei chyhoeddi yw diben y gofyniad statudol hwnnw.  Er bod y cyfeiriad at gyhoeddi yn y troednodyn yn hytrach nag ym mhrif gorff y Gorchymyn, rydym o’r farn bod dadl resymol y byddai’n dal yn eglur i ddefnyddiwr y ddeddfwriaeth ym mha le y mae’r ddogfen wedi ei chyhoeddi.   Fodd bynnag, er budd hygyrchedd a sicrwydd cyfreithiol, mae’r Llywodraeth yn ymrwymo i ddiwygio’r Gorchymyn ar y cyfle cyntaf posibl. 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

23 Hydref 2019